Cynllun mentora yn 'agor llygaid disgyblion'
Hybu'r hwyl mewn ffiseg ac annog merched i astudio'r pwnc yn bellach sydd ymhlith amcanion cynllun sy'n gweld myfyrwyr prifysgol yn mentora disgyblion.
Mae myfyrwyr o bum prifysgol wedi bod yn cynnal sesiynau gyda disgyblion TGAU mewn 12 ysgol ar draws Cymru.
Dywedodd arweinydd y cynllun ei fod yn bwysig denu mwy o bobl ifanc i'r maes fel eu bod yn gallu helpu datrys rhai o heriau mawr cymdeithas ym myd iechyd, peirianneg a'r amgylchedd.
Yn ôl Arwyn Lloyd, pennaeth gwyddoniaeth a ffiseg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, mae'r cynllun yn "agor llygaid disgyblion i bethau efallai bydden nhw heb ystyried o'r blaen."