Buddsoddi mewn chwaraeon yn gallu 'newid bywydau'

Mae buddion chwaraeon i gymdeithas yng Nghymru yn gorbwyso'r costau, yn ôl ymchwil newydd sydd wedi ei gomisiynu gan Chwaraeon Cymru.

Yr amcangyfrif yw bod gwerth £1.2bn o fuddsoddiad mewn chwaraeon yng Nghymru yn 2016/17 - sy'n cynnwys gwariant ariannol ac amser gwirfoddolwyr.

Yn ôl yr ymchwil roedd hynny gyfystyr â £3.4bn o "werth cymdeithasol".

Dywedodd Pennaeth Polisi Chwaraeon Cymru, Owen Hathway, bod gan chwaraeon y gallu i wella iechyd ac iechyd meddwl person.