Datblygu siacedi i 'ddiogelu pobl ddigartref'

Mae menter gymdeithasol yn Abertawe wedi datblygu côt ar gyfer pobl ddigartref sy'n eu hamddiffyn nhw rhag cael eu trywanu.

Fe gafodd y dilledyn ei ddatblygu gan gwmni Red Dragon yn dilyn sylw cynyddol i nifer yr ymosodiadau ar bobl sy'n cysgu ar y strydoedd.

Mae'r deunydd yn y gôt hefyd yn amddiffyn rhag llosgiadau, yn cadw'r defnyddiwr yn gynnes a sych, ac yn gallu cael ei ddefnyddio fel bag a sach gysgu.

Dywedodd Katie Fitzgerald, rhan o'r tîm sydd yn dylunio a chreu'r gôt, eu bod wedi siarad gyda phobl ddigartref ynglŷn â'r dyluniad.