Difrod tân Pontio 'wedi ei gyfyngu' i'r llawr uchaf
Bu'n rhaid i bobl adael canolfan gelfyddydol Pontio bore Llun yn dilyn tân yn rhan uchaf yr adeilad.
Cafodd dwy injan dân eu galw i'r ganolfan mewn ymateb i alwad frys am 11:50.
Chafodd neb anaf, ac mae Pontio wedi cadarnhau y bydd yr adeilad "ar gau am weddill y diwrnod oherwydd oglau mwg".
Mae'n debyg bod y tân wedi cynnau tra bod gwaith yn cael ei wneud ar do'r adeilad, ac mae'r difrod wedi ei gyfyngu i ardal benodol, yn ôl Alan Parry o Brifysgol Bangor.