Diwedd gwasanaeth lolipop Ynys Môn yn 'warthus'
Mae'r dyn neu ddynes lolipop sy'n helpu plant groesi'r ffordd ger ysgolion yn cael eu torri gan gynghorau ar draws y wlad.
Ar Ynys Môn, bydd y rhai olaf yn diflannu ddiwedd y tymor yma - y rhan fwyaf yng Nghaergybi.
Ond mae rhieni'n dweud bod y penderfyniad yn "warthus". Adroddiad Sion Tecwyn.