'Roedden nhw'n meddwl 'mod i wedi cael strôc'
Yn ôl elusen Facial Palsy UK mae diffyg ymwybyddiaeth o gyflwr parlys Bell yn golygu nad yw pobl yn aml yn cael y driniaeth na'r cymorth angenrheidiol mewn pryd.
Cyflwr nerfol ydy parlys Bell, sy'n gallu achosi parlys i ran o'r gwyneb a'r corff. Mae'n effeithio ar rhwng 12,000 a 24,000 o bobl yn y DU bob blwyddyn.
Un o'r rheiny yw Llinos Owen o Feddgelert, a ddeffrodd un bore yn 2015 i weld bod hanner ei hwyneb wedi'i barlysu.
Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu'n dweud y dylai meddygon adnabod y cyflwr, a bod ymyrraeth gynnar yn hanfodol er mwyn galluogi gwellhad tymor hir.