Lefelau staffio meddygon 'bron yn beryg' ar adegau

Mae dros ddau draean o feddygon iau yn dweud bod bylchau "cyson ac aml" i'r rota ble maen nhw'n gweithio, yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon (CBM).

Dywedodd y corff bod traean y swyddi meddygon ymgynghorol sy'n cael eu hysbysebu yn aros yn wag, a bod absenoldeb oherwydd salwch hefyd ar gynnydd.

Yn ôl Dr Gwenno Edwards - cofrestrydd yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor - mae lefelau staffio meddygon "bron yn beryg" ar adegau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "buddsoddi mwy nag erioed" mewn hyfforddiant i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.