Derbyn i'r Orsedd yn 'anrhydedd enfawr' i Ken Owens

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau'r rhai fydd yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd drwy anrhydedd yn yr ŵyl yn Sir Conwy eleni.

Ymysg yr enwau cyfarwydd eleni mae chwaraewyr rygbi Cymru a'r Scarlets, Ken Owens a Jonathan Davies.

Bydd y ddau yn derbyn gwisg las yn dilyn eu llwyddiant yn ennill y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Dywedodd Owens ei bod yn "anrhydedd enfawr" ymuno â nifer o enwau mawr y byd rygbi sydd wedi cael eu derbyn i'r Orsedd yn y gorffennol.