Pryder am lai o newyddion ar amserlen S4C
Mae cadeirydd pwyllgor diwylliant y Cynulliad wedi beirniadu newidiadau i amserlen S4C.
Bydd rhaglen Newyddion yn symud i 19:30 y flwyddyn nesaf, gyda rhifyn nos Wener yn gostwng i fod yn 10 munud o hyd.
Mae S4C yn mynnu y bydd y ddarpariaeth newyddion yn ehangu ar lwyfannau newydd, ond dywedodd Bethan Sayed bod angen ehangu, nid gostwng, gwasanaethau newyddion yng Nghymru.