'Y Gymraeg yn cynnig rhywbeth ychwanegol i fewnfudwyr'

Mae'r iaith Gymraeg yn cael ei "hesgeuluso a'i hisraddio" pan ddaw hi at ddysgu mudwyr a ffoaduriaid sy'n setlo yng Nghymru, yn ôl academydd.

Mae Dr Gwennan Higham o Brifysgol Abertawe yn dweud bod gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches awydd gwirioneddol i ddysgu Cymraeg a Saesneg, ond bod y ffocws ar hyn o bryd ar ddysgu Saesneg yn unig.

Dywedodd bod y Gymraeg yn gallu "cynnig rhywbeth ychwanegol i fewnfudwyr o ran integreiddio, teimlo'n rhan o'r gymuned, o gymdeithas" ac o ran swyddi hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod darparwyr gwersi Saesneg yn cael eu hannog i helpu dysgwyr i integreiddio Cymraeg i'w gwersi, a bod dysgwyr yn cael eu hannog i fynychu gwersi Cymraeg.