Tîm Casnewydd yn 'adlewyrchu Michael Flynn'

Wrth i chwaraewyr Casnewydd baratoi am rownd derfynol gemau ail gyfle Adran 2, mae is-reolwr Cymru, Osian Roberts, yn dweud bod y tîm yn adlewyrchu'r rheolwr Michael Flynn.

Buodd Flynn yn hyfforddi dan Roberts ar gwrs Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd Roberts bod y ffordd mae Flynn wedi "rhoi y darnau o'r jigsaw wedi golygu bod bob dim wedi dod ynghyd hyd yn hyn", cyn i'r Alltudion herio Tranmere yn Wembley ddydd Sadwrn.

Bydd Casnewydd yn erbyn Tranmere yn fyw o Wembley ar Camp Lawn, BBC Radio Cymru am 14:00 ddydd Sadwrn.