Merlod gwyllt ar garlam
- Cyhoeddwyd
Ar garlam!
Mae'r merlod gwyllt yma i weld yn gwneud y mwyaf o heulwen mis Mai wrth iddynt garlamu tuag at y Mynyddoedd Cambria.
Mae'r llun anhygoel, a dynnwyd ddydd Mawrth, yn dangos gre o ferlod Cymreig wrth iddynt ddychwelyd i dir uchel ardal yr Elenydd ar ôl gaeaf o bori ar dir isel.
Cafodd y llun ei dynnu ar gyfer cyfres ddogfen S4C, DRYCH, a fydd yn dilyn tair fferm anghysbell yn y canolbarth wrth iddynt frwydro i barhau â hen draddodiadau a dulliau ffermio.
Bydd y merlod yn ymddangos ar DRYCH S4C yn gynnar yn 2020.