Y daith ddyddiol i'r gwaith ar yr M4

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cadarnhau bod cynlluniau £1.4bn ar gyfer ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd wedi cael eu gwrthod yn sgil canfyddiadau ymchwiliad cyhoeddus.

Un sy'n gwneud y siwrnai ar hyd y briffordd yma yn gyson yw'r Dr Eleri Rosier, sy'n darlithio yn ysgol fusnes Prifysgol Caerdydd.

Dyw trafnidiaeth gyhoeddus ddim yn ymarferol iddi, ac mae'n gweithio o'i chartref yn Rhaglan, Mynwy, yn achlysurol er mwyn osgoi'r daith drwy Dwneli Bryn-glas ger Casnewydd.