Côr meibion yn dangos undod â gweithwyr Ford Pen-y-bont

Dyma Gôr Meibion Pen-y-bont yn canu Hen Wlad Fy Nhadau tu allan i bencadlys cwmni ceir Ford yn Brentwood ddydd Sul.

Cyhoeddodd Ford y byddan nhw'n cau eu ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr - sy'n cyflogi 1,700 o bobl - erbyn Medi 2020.

Roedd y côr yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth i'r gweithwyr sy'n wynebu colli eu swyddi.