Hirddydd haf yn ei holl ogoniant

  • Cyhoeddwyd
LlynFfynhonnell y llun, Richard Outram

Dyma'r olygfa odidog ger Llyn y Dywarchen yn Eryri y bore 'ma wrth i'r haul godi ar ddiwrnod hirddydd haf.

Heddiw yw diwrnod hiraf y flwyddyn, gyda'r nifer mwyaf o oriau o olau dydd rhwng toriad gwawr a machlud haul. Mae disgwyl i'r haul dywynnu am bron i 17 awr, felly gwnewch y mwyaf ohono!

Diolch i Richard Outram am rannu'r llun arbennig yma gyda Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Wynne Roberts

Dyma lun arbennig arall o'r gwawrio, gan y Parch Wynne Roberts, a fu'n dathlu'r hirddydd haf ar Ynys Môn. Meddai: "Roeddwn i'n ddigon ffodus i fod yn sefyll y tu fewn i siambr gladdu Bryn Celli Ddu y bore 'ma pan wawriodd yr haul a goleuo'r llwybr i fewn i'r siambr."

Hefyd o ddiddordeb: