'Safio'r amgylchedd yn safio arian hefyd'

Mae un o brif ymgynghorwyr Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai bron i £1bn y flwyddyn gael ei glustnodi ar gyfer mesurau i atal newid hinsawdd.

Mae rhyw 12% o allyriadau Cymru yn deillio o fyd amaeth - ac mae'r NFU wedi gosod targed i ddatrys hynny'n llwyr erbyn 2040.

Penderfynodd Llyr Jones, sy'n ffermio ger Corwen yn Sir Ddinbych, fuddsoddi mewn trydan adnewyddadwy er mwyn ceisio lleihau'r allyriadau carbon o'i fferm.

Mae'n dweud fod y newid yn golygu ei fod "wrth safio arian hefyd yn safio'r amgylchedd".