Cofio aelod o'r SAS a laddwyd yn Ffrainc

75 mlynedd ers i Gymro oedd yn aelod o'r SAS a saith aelod o'r Gwrthsafiad gael eu lladd gan filwyr Almaeneg, bydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yn Ffrainc i gofio amdanynt.

Roedd y Lefftenant Tomos Stephens o Lansteffan yn aelod o uned fechan a gafodd eu gollwng trwy barasiwt fel rhan o Operation Bulbasket.

Bu farw yn 24 oed ar 3 Gorffennaf 1944 wedi i'r Natsïaid ddarganfod pencadlys cudd yr uned mewn coedwig ger Verrières.

Bydd trigolion Verrières yn cynnal gwasanaeth yn y pentref cyn cerdded i fedd Tomos Stephens yn y fynwent leol, ac yna i'r goedwig i gofio'r bobl eraill fu farw yn yr un frwydr.

Dyma Aled Scourfield yn adrodd hanes Tomos Stephens.