Sain Ffagan: 'Nabod y bobl

  • Cyhoeddwyd

Dyma gyfle arall i gwrdd â'r bobl sy'n gweithio yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan wedi i'r safle ennill gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn 2019,

Wedi prosiect chwe blynedd a gostiodd £30m, fe wnaeth yr amgueddfa ehangu'r safle yn 2018 i gynnwys mynedfa newydd, tair oriel newydd, un o lysoedd Llywelyn o'r 13eg ganrif, a fferm Bryn Eryr, sy'n seiliedig ar safle archeolegol o gyfnod y Rhufeiniaid.

I nodi'r achlysur, aeth Cymru Fyw i'r amgueddfa fis Hydref 2018 i gwrdd â rhai o'r staff tu ôl i'r llen ar y pryd. Pwy oedden nhw nhw a beth oedd eu hanes?

Kathryn Rees ac Abby Williams yn gweithio yn y dderbynfa. Cafodd y brif fynedfa ei thrawsnewid yn 2018 gydag ardal newydd dan do a bwyty newydd.

Dafydd Lewis o Lantrisant yw rheolwr y siop losin a'r siop groser, Gwalia Stores. Dywedodd Dafydd: "Dwi ddim jest yn rhedeg dwy siop, mae'n rhan o gyd-destun ehangach sy'n gwerthu'r profiad yn ogystal â chynnyrch Cymreig."

Mae Sain Ffagan ymhlith yr amgueddfeydd awyr agored mwyaf poblogaidd o ran niferoedd ymwelwyr yn Ewrop ac mae tua 500,000 o bobl yn ymweld bob blwyddyn.

Roedd Elin Barker o Gaerfyrddin yn gweithio yn yr amgueddfa ers pum mis. Cyn hynny, roedd hi'n astudio celf ym Mhrifysgol Falmouth.

"Dwi'n mwynhau gweithio yma achos dwi'n hoff o'r elfennau celf gweledol. Fy hoff le i weithio ar y safle yw fferm Llwyn yr Eos, gan ei fod yn fy atgoffa o fynd i fferm fy mam-gu pan oeddwn yn blentyn."

Mae Hywel Jones wedi bod yn un o'r gofalwyr yn Sain Ffagan ers Tachwedd 1999. Mae Hywel yn wreiddiol o Aberaeron, ac mae'n dweud ei fod yn mwynhau'r amrywiaeth a'r ffaith ei fod yn cael adeilad newydd i ofalu amdano yn wythnosol.

Agorodd Sain Ffagan i'r cyhoedd yn 1948. Pennaeth yr amgueddfa o 1948 i 1971 oedd Dr Iorwerth C Peate. Ei ysbrydoliaeth oedd amgueddfeydd awyr agored Sgandinafia, a'i fagwraeth yn Llanbrynmair.

Mae Maxine yn gweithio yn y siop Gwalia Stores ers Mehefin 2017. "Mae'n hyfryd a chynnes yma a'n fy atgoffa o mhlentyndod pan oedd bywyd yn fwy syml. Mae pobl wirioneddol wrth eu boddau yn dod i'r siop yma ac mae wir yn bleser i weithio yma."

Mae Rachel Tilley yn dod o'r Barri ac yn gweithio yn Sain Ffagan ers 15 mlynedd. Roedd hi'n gweithio yn yr adran addysg am flwyddyn ac yn dweud ei bod yn "mwynhau amrywiaeth y swydd - rhywbeth gwahanol yn digwydd bob dydd."

Y Talwrn Ceiliogod yng nghanol lliwiau'r Hydref. Yn Ninbych oedd y talwrn yn wreiddiol ond yn 1965 fe benderfynwyd ei adfer, a chafodd y gwaith o'i symud a'i ail-adeiladu yn Sain Ffagan ei gwblhau yn 1970.

Sam Peterson, sy'n wreiddiol o Sir Benfro, ger y tân yn Ffermdy Kennixton. Symudodd Sam i Gaerdydd i astudio yn y brifysgol a dechreuodd weithio gyda'r amgueddfa yn rhan amser dros gyfnod Pasg 2018 cyn dechrau gweithio yno'n llawn amser.

Roedd Megan Smith wedi gweithio am gyfnod byr yn Sain Ffagan cyn dychwelyd i'r Brifysgol yn Efrog ond fe wnaeth fwynhau'r profiad o weithio yn yr amgueddfa.

Hefyd o ddiddordeb:

Cyhoeddwyd yn wreiddiol fis Hydref 2018.