Saethu gwartheg TB 'yn ormod' i rai
Yn ôl y rheolau presennol mae'n rhaid i anifeiliaid sydd a'r diciâu gael eu saethu ar leoliad os ydyn nhw ar fin rhoi genedigaeth neu'n rhy sâl i deithio i ladd-dy.
Ond mae Jeff Evans, ffermwr o Sir Benfro, yn dweud bod gorfod gwylio'u gwartheg yn cael eu saethu o'u blaenau yn "ormod" i rai.
Nawr mae Llywodraeth Cymru am ariannu cynllun fydd yn galluogi ffermwyr i ofyn am bigiad marwol yn hytrach na saethu anifail sydd wedi ei heintio.