'Rhaid i sefydliadau fod yn atebol i'w cleifion'
Mae crwner wedi dod i'r casgliad bod staff Ysbyty Gwynedd wedi colli cyfleoedd i drin dynes fu farw o ganlyniad i gymhlethdodau yn dilyn cemotherapi yn 1994.
Roedd Siaron Bonds, oedd yn 26 oed ac o Lanrug ger Caernarfon, yn yr ysbyty am driniaeth radd uchel at fath o lymphoma.
Ond bu farw wedi iddi ddatblygu syndrom o'r enw ATLS (Acute Tumour Lysis Syndrome) wedi i gymhlethdodau godi.
Yn darllen datganiad ar ran y teulu yn dilyn y cwest, dywedodd chwaer Ms Bonds, Glenda Murray bod yn "rhaid i'r sefydliadau anferth yma fel Betsi Cadwaladr fod yn atebol i'w cleifion a'u teuluoedd".