Teulu marwolaeth Sioe: 'Bron i ni weld trasiedi arall'

Mae teulu Elgan Williams, ffermwr 17 oed o Henllan ger Dinbych a fu farw mewn damwain ffordd ger maes y Sioe Frenhinol yn 2004, yn dweud eu bod yn dal â phryderon ynghylch trefniadau diogelwch y digwyddiad, er gwaethaf gwelliannau ers y llynedd.

Dywed Nan a Bob Williams iddyn nhw weld person ifanc yn cael ei daro gan gar yr wythnos ddiwethaf wrth i gannoedd o bobl adael y maes ar yr un pryd.

Maen nhw'n croesawu rhai o'r camau diogelwch diweddaraf, yn sgil marwolaeth dyn ifanc arall yn ystod wythnos y sioe yn 2017, ond yn dweud bod yn "rhaid i rwbath ddigwydd" i atal rhagor o ddamweiniau difrifol.

Bydd Grŵp Diogelwch Llanfair-ym-Muallt yn trafod sylwadau'r teulu yn eu cyfarfod fis nesaf.