Lluniau'r Steddfod: Dydd Llun // The Eisteddfod in pictures: Monday
- Cyhoeddwyd
Diwrnod y Coroni, diwrnod urddo aelodau newydd i Orsedd y Beirdd, a diwrnod llawn cystadlu yn y Steddfod. Dafydd Owen, o Ffotonant, yw ein ffotograffydd gwadd ar faes yr Eisteddfod.
The crowning of the bard ceremony and a first glimpse of the Gorsedd proceedings at the National Eisteddfod in Llanrwst. Our guest photographer is Dafydd Owen, of Ffotonant.

Ydy Maggi Noggi yn rhoi tips trin gwallt i JasonMohammad tybed? // Presenter Jason Mohammad is tickled pink by drag artist Maggi Noggi

Falyri Jenkins, enillydd medal TH Parry-Williams yn dathlu gyda'i hŵyr Tal, oedd hefyd ar y llwyfan gyda hi yn ystod y seremoni brynhawn Llun // Falyri Jenkins celebrates with her grandson Tal after winning the TH Parry-Williams medal, presented annually to an individual who has contributed widely within their local community with a particular emphasis on working with young people.

Yn barod ar gyfer y ddawns flodau // Flower power!

Da iawn dad! bardd y Goron Guto Dafydd gyda'i blant Nedw a Casi // So proud! Nedw and Casi with their father, winning bard Guto Dafydd

Daeth y bardd ifanc o Bwllheli i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 29 o geisiadau. // A winning smile from the winning bard

Yr Archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd, yn arwain y seremoni Urddo am y tro cyntaf // The new Archdruid, Myrddin ap Dafydd, gets his inaugural Gorsedd ceremony under way

Elin Angharad, o Ysbyty Ifan, yn cael ei chroesawu i'r Orsedd. Mae Elin yn bennaeth cerddoriaeth yn Ysgol y Creuddyn ac mae'n arwain CoRwst // Teacher and conductor Elin Angharad is honoured on her home patch.

Mae'r aelodau sy'n gwisgo gwyrdd yn arbenigo ym myd y celfyddydau. Gall hynny ddigwydd er anrhydedd, trwy radd neu drwy arholiad // Members of the Gorsedd who wear green robes specialise in the arts

Cyfryngfab, Siryf a Cadno sef y darlledwr Aled Samuel a'r chwaraewyr rygbi Ken Owens a Jonathan Davies yn mwynhau'r seremoni // Broadcaster Aled Samuel and Wales rugby legends Ken Owens and Jonathan Davies soak up the atmosphere

Mae Robyn McBryde, sydd hefyd â chysylltiadau gyda'r tîm rygbi cenedlaethol, yn chwarae rhan flaenllaw yn y seremoni fel Ceidwad y Cledd // The sword keeper always carries the sword by its blade rather than the hilt as a symbol of peace

Catrin Dafydd yn cael ei hanrhydeddu ar ôl ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2018 // Catrin Dafydd is accepted into the Gorsedd after winning the Crown at least year's festival

Roy Griffiths o'r grŵp gwerin Plethyn, yn ei wisg werdd // Folk musician Roy Griffiths

Bydd chwaraewr rygbi Cymru, Jonathan 'Foxy' Davies yn cael ei adnabod yn yr orsedd fel Jon Cadno. Ydy enwau gorseddol yn mynd llawer gwell na hyn? // Welsh rugby star Jonathan 'Foxy' Davies has taken the bardic name Jon Cadno

Mae gan yr Orsedd yr X Factor. Mae Lloyd Macey wedi mynd o lwyfan yr X Factor i Gylch yr Orsedd. // Lloyd Macey - from the X Factor stage to the stone circle of the Gorsedd.

Gwên gan yr Archdderwydd. // A smile from the Archdruid.

Mae amserlen Caffi Maes B yn cynnwys sesiynau comedi, sgyrsiau a chyfweliadau yn ogystal â gigs acwstig gan rai o hoff fandiau Cymru // An acoustic gig in Caffi Maes B

Wedi blino'n lan // An exhausting day at the Eisteddfod

Hefyd o ddiddordeb // Also of interest
Mwy o'r Eisteddfod ar ein gwefan arbennig, dolen allanol //More from the Eisteddfod on our Eisteddfod website, dolen allanol.