Lluniau'r Steddfod: Dydd Gwener // Friday's pictures from the Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Lluniau dydd Gwener yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst gan ein ffotograffydd gwadd Dafydd Owen.
Gallwch weld y newyddion, canlyniadau, uchafbwyntiau a fideo byw o'r Pafiliwn yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw.

Photographs from Friday's National Eisteddfod in Llanrwst taken by our guest photographer, Dafydd Owen.
You can catch up with the day's news and highlights on our special Eisteddfod website.

Fel hogyn o Ddyffryn Conwy sy'n byw yn Nhregaron, mae gan Huw Edwards gysylltiad gyda Eisteddfod eleni a'r flwyddyn nesa'.
Huw Edwards has links to this year's Eisteddfod and next year's - he comes from the Conwy Valley and lives in Tregaron

Mae Irwyn Jones, o'r Bala, wedi bod yn yr Eisteddfod bob dydd i gefnogi a mwynhau.
"Dwi'n dod yma i gefnogi'r Steddfod a'r pethe. Dwi yma hefyd i warchod y wyrion, a rhwng bob dim cael rhyw ambell i beint."
Irwyn Jones, from Y Bala, has been to the Eisteddfod everyday to support his children who are competing - and to socialise.

Rhai o berfformwyr dawnswyr Theatr Stryd yn cael hwyl.
Dancers entertaining the crowd on the Maes.

Gorymdaith a seremoni'r Orsedd oedd un o brif ddigwyddiadau'r diwrnod wrth i aelodau newydd gael eu hurddo.
The fanfare opens the ceremony to accept new members to the Gorsedd of the Bards.

Diwrnod llawn balchder - a nerfau - i ferched Dawns y Blodau.
Pride is mixed with nerves for the young dancers taking part in the ceremony.

Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Trystan Lewis yn annerch y dorf.
Trystan Lewis, chair of the executive committee, takes part in the ceremony.

Dyma Eisteddfod gyntaf Grace Emily Jones - ac mae hi wedi cael ei hurddo ac wedi bod ar y llwyfan yn y Pafiliwn yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn. "Roedd yn brofiad anhygoel - dim fel unrhywbeth dwi wedi ei wneud o'r blaen."
It's been a good first Eisteddfod for New Zealander Grace Emily Jones - accepted to the Gorsedd of the Bards and a finalist in the Learner of the Year competition.

Aelod newydd - a balch iawn - o'r Orsedd, y digrifwr Tudur Owen.
A proud moment for new Gorsedd member comedian Tudur Owen.

Roedd yn ddiwrnod i'w gofio i nifer yn y gynulleidfa hefyd.
A day to remember for many in the audience as well.

Ychydig iawn o'r Eisteddfod mae Ela Jones, o Ddinbych, wedi ei weld gan ei bod wedi bod yn gweithio yn y bar Syched drwy'r wythnos:
"Ro ni'n gweithio tan ddau bore ma, ond nes i ddod i fewn efo mam am wyth i weld hi'n cystadlu efo'r côr. Gafodd nhw gynta ac ail."
Ela Jones, from Denbigh, has been serving drinks at one of the Eisteddfod bars - but today she had a reason to arrive early: "I was working until 2am but came in at 8am to see my mother was competing with the choir."

Does gan Shan Ashton, o Gapel Curig, ddim amheuaeth beth ydi uchafbwynt y Steddfod hyd yma iddi hi - Gai Toms a'r Banditos yn y Tŷ Gwerin.
"Roedd o'n lot o hwyl a dyna'r tro cyntaf i fi weld Gai yn perfformio mewn leotard."
Shan Ashton, from Capel Curig, has been at the Eisteddfod all week and says her highlight was watching Gai Toms a'r Banditos.

Tra roedd yr haul yn gwenu, roedd ambell i eisteddfotwr yn gwneud yr un peth.
Making the most of the sunny weather.

Prif seremoni'r dydd oedd y Cadeirio.
The main ceremony of the day was the chairing of the bard.

... ac enillydd poblogaidd iawn yn T. James Jones - neu Jim Parc Nest.
... and a popular winner in T. James Jones, or Jim Parc Nest.


Mae'r holl fandiau sy'n chwarae ar y Maes yn gwneud i un gŵr fod eisiau dawnsio.
"Dwi'n clywed y gerddoriaeth a dwi'n ymuno efo nhw weithiau - dwi'n caru dawnsio," meddai Yagoob Alyas, un o'r tîm diogelwch, sy'n wreiddiol o Sudan, ond nawr yn byw yn Birmingham.
All the music on the Maes makes this security guard Yagoob Alyas want to dance.
"I hear the music and I join in sometimes," said Yagoob Alyas, originally from Sudan, now living in Birmingham.

Mae Gwilym a Gruffydd wedi dod o Fryste i'r Steddfod, gan bod eu tad Huw yn wreiddiol o Landudno.
Gwilym and Gruffydd, from Bristol, enjoying the Eisteddfod with their father Huw, originally from Llandudno.

Ychydig iawn mae Eirian Jones, sy'n byw ger Corwen, wedi ei weld o'r Maes drwy'r wythnos - mae hi'n un o'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn swyddfa'r Eisteddfod ers blynyddoedd.
Eirian James has seen little of the Maes today - nor the rest of the week. She's one of the many volunteers, helping the Eisteddfod office run smoothly.
.