Lluniau'r Eisteddfod: Dydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Golygfeydd gorau dydd Mawrth ar y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.

Daniel a Medi o Gaerdydd gyda'u plant Sara, Martha a Gwion

Pizza a peint wrth Lwyfan y Maes

Mae ysbryd Llywelyn i'w deimlo yn adeilad AGORA, sef prosiect celf yr artist Marc Rees

Diolch am y baned Eddie Ladd! Mae'r perfformiwr a'r artist yn arwain sgyrsiau bach a mawr gyda'r cyhoedd ar y cyd â Sara McGaughey yn adeilad AGORA

Guto Dafydd yn wên o glust i glust wrth ennill ei ail wobr yr wythnos hon - y Goron ddoe, Gwobr Goffa Daniel Owen heddiw. Tybed fydd o nôl cyn diwedd yr wythnos?!

Roedd hi'n reit wlyb fore Mawrth...

...ond roedd yn dal yn dywydd hufen iâ

...ac yn ddigon sych b'nawn Mawrth i Greta o Landudno fwynhau teimlo'r gwair rhwng bodiau ei thraed

Hugh Roberts a Nerys Owen yn mwynhau clonc rhwng dyletswyddau stiwardio

Ribidirew! Sbïwch pwy ddaeth i'r Maes heddiw - Deian a Loli!

Owena Jones o'r Fali wedi cael hen gyfrol o gerddi gwerth chweil ar stondin lyfrau ail-law

Y dyn ei hun, Wcw, yn sôn wrth rai o blant Cymru am ei gylchgrawn ar stondin Golwg

Tîm o feirdd Meirionnydd yn chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer cystadlu yn Ymryson Barddas yn y Babell Lên. Bydd yr ornest i'w chlywed ar BBC Radio Cymru nos Sul

Mae'r slogan yma wedi bod yn ysbrydoliaeth i lawer o ddigwyddiadau'r Steddfod

Hefyd o ddiddordeb:
Mwy o'r Eisteddfod ar ein gwefan arbennig, dolen allanol