Osian Roberts: Moroco yn gyfle rhy dda i wrthod

Mae cyn is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Osian Roberts wedi dweud y bydd rheoli ei wlad yn freuddwyd "am byth".

Cyhoeddodd Roberts ei fod yn gadael ei swydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yr wythnos ddiwethaf er mwyn cymryd swydd hyfforddi ym Moroco.

Dywedodd bod hynny'n "sialens hollol newydd" ac yn "gyfle cyffrous".

Ymgeisiodd am swydd y rheolwr ar ôl ymadawiad Chris Coleman, ond Ryan Giggs gafodd ei benodi.

Ar ôl yr "amser bendigedig" yn y swydd gyda Chymru, dywedodd y byddai'r "freuddwyd [o reoli] yna am byth".