Strôc yn 38 oed: Stori Trefor Jones

Mae bron i hanner goroeswyr strôc yng Nghymru sydd o dan 65 oed yn ei gweld hi'n anodd ymdopi'n ariannol.

Yn ôl y Gymdeithas Strôc fe wynebodd 47% o oroeswyr leihad yn eu hincwm a rhagfarn wrth fynd yn ôl i weithio.

Fe gafodd Trefor Jones o Dremadog strôc yn 38 oed - mae'n dweud bod pobl ifanc yn gallu ei chael hi'n anodd cael cefnogaeth wrth wella.