Dirwy i ddyn am yrru car gyda char arall ar ei ben

Mae dyn o Geredigion wedi pledio'n euog i yrru'n beryglus ar ôl cael ei ddal ar gamera yn gyrru car gyda char arall ar ei ben.

Cafodd Glyndwr Wyn Richards o Lanfarian ddirwy o £195 ar ôl cyfaddef i'r drosedd yn Llys Ynadon Aberystwyth.

Mae fideo o'r digwyddiad yn dangos Richards yn gyrru Volkswagen Passat drwy stad ddiwydiannol, gyda Skoda Octavia ar y to.

Cafodd dri pwynt ar ei drwydded yrru hefyd.