'Digon yw digon' o ran bygythiadau yn erbyn cynghorwyr

Mae'n rhaid i "bobl sefyll i fyny a dweud digon yw digon" yn sgil y cynnydd mewn ymosodiadau a bygythiadau yn erbyn cynghorwyr, yn ôl arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.

Wrth siarad ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dywedodd Ellen ap Gwynn ei bod hithau wedi cael "profiadau digon annifyr" gan bobl oedd yn anghytuno gyda phenderfyniadau'r cyngor sir.

Daw sylwadau Ms Gwynn ar ôl i gynghorydd yng Nghaerdydd, Jayne Cowan, ddweud ei bod ar fin cael larwm panig gan yr heddlu yn sgil bygythiadau yn ei herbyn.