Datblygu prawf sepsis: 'Roedd Edie'n lwcus - nid pawb sydd'
Gallai prawf newydd ar gyfer sepsis gael ei ddatblygu yng Nghymru wrth i dîm o ymchwilwyr arwain y ffordd yn y maes.
Gobaith ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd ydy "darllen arwyddion yn y gwaed" o fewn y system imiwnedd i weld os ydy claf yn debygol o gael sepsis.
Profodd David Madoc-Jones y boen o aros am ganlyniadau profion pan gafodd ei ferch Edie, oedd wedi ei geni 17 wythnos yn gynnar, ei tharo â'r cyflwr.