Protest yn erbyn gridiau gwartheg 'swnllyd' yn Y Fron

Mae trigolion pentref yng Ngwynedd wedi bod yn protestio am y nifer o gridiau gwartheg sydd yno.

Dywed pobl Y Fron bod y gridiau yn swnllyd a'u bod nhw ddim yn effeithiol yn rhwystro defaid rhag crwydro trwy'r pentref.

Mae yna gynlluniau am un grid newydd, ac mae un arall newydd gael ei adeiladu, gyda nifer eisoes ar y ffordd yn arwain i fyny i'r pentref.