Beth sy'n gyfrifol am y bwlch cyrhaeddiad rhwng rhywiau?

Mae angen rhoi mwy o flaenoriaeth i gau'r bwlch sy'n bodoli rhwng perfformiad academaidd bechgyn a merched, yn ôl ymgynghorydd addysg.

Dywedodd Alan Evans bod "14 pwnc yng Nghymru lle mae'r bwlch rhwng bechgyn a merched rhwng 10% ac 20%".

Aeth BBC Cymru i Ysgol Berfformio Arius ym Mhentre'r Eglwys i holi disgyblion am eu barn ynglŷn â beth sy'n gyfrifol am y bwlch cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched.