Rhys Patchell yn holliach wedi cyfergyd

Mae maswr Cymru, Rhys Patchell yn dweud ei fod yn ffit i wynebu Georgia ddydd Llun ar ôl gwella o gyfergyd.

Bu'n rhaid i Patchell, 26, adael y maes ar ôl dioddef anaf i'w ben yn erbyn Iwerddon yng ngêm baratoadol olaf Cymru ar gyfer y bencampwriaeth.

Fe wnaeth y maswr ddioddef dau anaf i'w ben tra'n chwarae dros y Scarlets yn nhymor 2018-19.

"Mae dychwelyd i chwarae'n mynd yn iawn ac rydw i ar gael i gael fy newis," meddai Patchell.