'Hafau mwy gwlyb' yn sgil newid hinsawdd

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Rhydychen wedi bod yn astudio cylchoedd tyfiant hen goed derw er mwyn darganfod sut mae hinsawdd y Deyrnas Unedig wedi newid dros y mileniwm diwethaf.

Eu casgliad yw bod y DU wedi wynebu cyfnod hir o dywydd eithafol a bod "gwersi enfawr" am effeithiau posib newid yn yr hinsawdd ar gymdeithas.

Mae'r astudiaeth hefyd yn dangos bod ein hafau o'r 60au ymlaen wedi bod yn fwy gwlyb, medd Dr Siwan Davies - pennaeth adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe.