Anhwylderau bwyta: 'Angen gweithredu' medd AC

Yn ôl adroddiad arbenigol mae yna "ddiffyg adnoddau sylweddol" yng ngwasanaethau anhwylderau bwyta Cymru.

Mae'r Seiciatrydd Ymgynghorol Dr Jacinta Tan yn dweud fod angen "ailstrwythuriad mawr" i'r gwasanaeth.

Dywed Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething y byddai'n sicrhau bod y gwasanaethau yn cael ei "siapio yn sgil yr argymhellion".

Mae cadeirydd grŵp trawsbleidiol ar y pwnc, Bethan Sayed AC, yn dweud fod yr adroddiad yn tanlinellu'r angen am rwydwaith anhwylderau bwyta i Gymru.