Mam o Gaerdydd yn sôn am 'brofiad gwaethaf fy mywyd'

Mae BBC Cymru wedi siarad â mam merch 11 oed o Gaerdydd gafodd ei thargedu ar-lein yn ddiweddar.

Mewn cyfweliad dienw, dywedodd mai dyma oedd "profiad gwaethaf fy mywyd".

Roedd hi wedi edrych ar ffôn ei merch ym mis Mehefin eleni, gan sylweddoli ei bod wedi gyrru negeseuon at bobl ar ap Kik Messenger.

Dywedodd bod ei merch wedi cael ei thargedu gan wyth o bobl, a'i bod wedi cyfnewid lluniau gydag un ohonynt.