Cymru wedi dangos 'cymeriad a dycnwch' yn erbyn Fiji

Mae gohebydd rygbi BBC Cymru, Gareth Charles yn dweud bod Cymru wedi dangos "cymeriad a dycnwch" yn y fuddugoliaeth yn erbyn Fiji ddydd Mercher.

Er hynny, dywedodd y bydd "y tîm meddygol â lot o waith dros y dyddiau nesaf" yn dilyn y gêm gorfforol, gyda gêm arall yn erbyn Uruguay ddydd Sul.

Mae Warren Gatland wedi cadarnhau y bydd y maswr Dan Biggar yn colli'r gêm honno wrth iddo fynd trwy asesiad am anaf i'w ben.

Ond roedd y prif hyfforddwr yn llai pryderus am yr anafiadau i'r asgellwr, Josh Adams a'r canolwr, Jonathan Davies.