Myfyrwyr tramor yn 'deall pwysigrwydd dwyieithrwydd'

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn denu mwy a mwy o fyfyrwyr o Ganada i wneud eu cyrsiau i hyfforddi i fod yn athrawon.

Eleni mae 65 o'r rhai sydd yn gwneud y cyrsiau TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) yn dod o Ganada - cynnydd o 500% ers 2012 pan ddaeth pump draw i astudio.

Fel rhan o'r addysg mae'r myfyrwyr yn ei dderbyn, maent yn cael 25 awr o wersi Cymraeg.

Yn ôl Dr Gina Morgan, un o'r tiwtoriaid Cymraeg yn y brifysgol, mae'n "bleser" dysgu'r myfyrwyr tramor am eu bod yn aml yn siarad sawl iaith ac yn deall "pwysigrwydd dwyieithrwydd".