Pum mlynedd o aros am weiren ddannedd
Mae Aelod Senedd Ieuenctid Cymru yn galw am wella gwasanaethau orthodontig i gleifion ifanc yn y gorllewin gan boeni bod gormod yn gorfod aros am gyfnodau hir am driniaethau.
Mae Thomas Kendall ei hun yn aros ers bron i chwe blynedd am weiren ddannedd, er iddi gael gwybod bod angen un arno pan roedd yn 12 oed.
Cysylltodd â BBC Cymru gan ofyn faint o bobl eraill oedd yn yr un sefyllfa, gan ddweud ei fod wedi methu â chael atebion wrth godi'r mater gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y bwrdd eu bod eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â phroblemau comisiynu hanesyddol, ond bod rhai cleifion yn gorfod aros wrth iddyn nhw flaenoriaethu achosion brys.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae disgwyl i system electroneg newydd fynd i'r afael ag "aneffeithlonrwydd y gorffennol wrth gyfeirio cleifion".