Rhys Patchell: Cymru am 'symud ymlaen ac adeiladu'

Mae'r maswr Rhys Patchell yn dweud mai'r her nawr fydd "symud ymlaen ac adeiladu" wrth i ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd ddod i ben.

Yn dilyn y gystadleuaeth mae Warren Gatland a'i dîm hyfforddi yn camu o'r neilltu, gyda Wayne Pivac yn cymryd yr awenau.

Ychwanegodd Patchell bod cyfnod Gatland wrth y llyw wedi bod yn "12 mlynedd arbennig".