Tîm pêl-droed merched Cymru'n dysgu Cymraeg

Dros yr wythnosau diwethaf mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi bod yn dechrau dysgu Cymraeg fel carfan.

Yr wythnos hon fe gawson nhw ychydig o help llaw yn eu hymdrechion, wrth i dîm Titws Taf Cymric daro mewn i roi gwers arbennig.

Yn ôl Angharad James, un o'r ychydig o'r chwaraewyr rhyngwladol sy'n rhugl yn y Gymraeg, mae'r ymdrech yn "bwysig iawn i gadw'r iaith yn fyw".