Adroddiad annibynnol i effaith tywydd ar Brifwyl eleni

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn comisiynu adroddiad annibynnol i effaith y tywydd ar Brifwyl eleni yn Llanrwst.

Fe wnaeth trefnwyr gadarnhau ddydd Sadwrn bod Eisteddfod Sir Conwy 2019 wedi gwneud colled ariannol o £159,000.

Roedd hynny wedi i dywydd garw yn ystod wythnos yr Eisteddfod arwain at gau Maes B a'r maes pebyll ieuenctid yn gynnar, a chanslo ac aildrefnu rhai digwyddiadau.

Roedd bwriad yn wreiddiol i gynnal yr ŵyl yng nghanol Llanrwst ond bu'n rhaid ei symud i'r cyrion wedi llifogydd yn y dref ym mis Mawrth.

Gan fod Prifwyl y llynedd hefyd wedi gwneud colled sylweddol, mae trefnwyr yn dweud bod sicrhau arian wrth gefn yn flaenoriaeth dros y blynyddoedd nesaf.

Maen nhw hefyd yn pwysleisio na fydd colled eleni "yn cael ei chario drosodd i Eisteddfod Ceredigion na phrifwyl Llŷn ac Eifionydd".

Yn ôl Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli, Ashok Ahir, mae'n fwriad i'r adroddiad gael ei gwblhau erbyn diwedd gwanwyn nesaf.