Degawd ar gocên: 'Roedd o'n chwalu bob dim'

Fe wnaeth pedair gwaith yn fwy o bobl farw o ganlyniad i wenwyn cocên yng Nghymru wy llynedd o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Bu farw 31 o bobl yng Nghymru yn uniongyrchol oherwydd y cyffur y llynedd, o'i gymharu â saith yn 2014.

Mae Llinos Môn Owen o Ynys Môn yn dweud iddi golli mwy na degawd o'i bywyd i gocên wedi iddi gymryd y cyffur gyntaf yn 18 oed.

Ar ei gwaethaf mae'n dweud iddi wario mwy na £1,000 y mis ar y cyffur dosbarth A, a byddai'n mynd heb fwyd ac yn methu talu ei rhent er mwyn bwydo ei dibyniaeth.