Lluniau glowyr Cymru gan yr Americanwr Robert Frank

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth yr Americanwr Robert Frank, fu farw fis Medi 2019, dynnu cyfres o luniau sy'n cofnodi bywyd caled meysydd glo de Cymru wedi'r Ail Ryfel Byd.

Ffynhonnell y llun, Robert Frank, Pace/MacGill

Mae'r ffotograffydd, oedd o'r Swistir yn wreiddiol, yn cael ei gofio am gyflwyno ei arddull arloesol yn ei gyfrol eiconig The Americans, sy'n darlunio problemau cymdeithasol a bywyd bob dydd yn yr Unol Daleithiau yn yr 1950au.

Ond mae'n bosib mai ei brofiad o fywyd caled y dosbarth gweithiol yng Nghymru oedd y sbardun ar gyfer sylwebaeth gymdeithasol ei luniau.

Ffynhonnell y llun, Robert Frank. drwy Pace/McGill
Disgrifiad o’r llun,

Plant yn chwarae ar y tipiau glo yng Nghymru

Daeth Robert Frank i Brydain er mwyn tynnu lluniau yn Llundain yn wreiddiol ond sylwodd yn fuan ar y gwrthgyferbyniad rhwng y cyfoethog a'r tlawd.

Clywodd am Gymru a phenderfynu mynd i gofnodi bywyd ym mhyllau glo de Cymru yn 1953.

"War is over; the heroic French population reaffirms superiority. Love, Paris, and Flowers but London was black, white, and gray, the elegance, the style, all present in front of always changing fog," meddai Robert Frank

"Then I met a man from Wales talking about the Miners and I had read 'How Green Was My Valley.' This became my only try to make a 'Story'."

Ffynhonnell y llun, Robert Frank, drwy Pace/McGill
Disgrifiad o’r llun,

Ben James, 1953

Aeth i gymuned Caerau a chanolbwyntio ar fywyd bob dydd glöwr o'r enw Ben James.

Mae ei luniau o'r cyfnod yma wedi eu cyhoeddi mewn cyfrol o'r enw London/Wales lle mae'n gwrthgyferbynnu arian a thlodi; o fyd cyfoethog dynion busnes a bancwyr Llundain i fyd y dosbarth gweithiol a gwaith caled, budr, glowyr Cymru.

Ar y clawr mae llun o ddyn trwsiadus mewn het fowler yn cerdded heibio i ddyn wedi ei orchuddio mewn llwch du yn cario sach drom o lo i'w dosbarthu i'r stryd.

Ffynhonnell y llun, Robert Frank, Pace/MacGill
Disgrifiad o’r llun,

Dosbarthu glo ar strydoedd Llundain

Yn yr ailgyhoeddiad o London/Wales yn 2007, dywedir fod y lluniau yn dwyn i gof y berthynas rhwng y dosbarthiadau cymdeithasol mewn amser o newid ym Mhrydain.

"Setting a significant documentary precedent for Frank's best known work, The Americans, London/Wales demonstrates the artist's early interest in social commentary, the narrative potential of photographic sequencing and his innovative use of the expressionistic qualities of the medium," meddai'r broliant.

Ffynhonnell y llun, Robert Frank. drwy Pace/McGill
Disgrifiad o’r llun,

Glowyr yng Nghymru 1953

Cafodd The Americans ei gyhoeddi yn 1958; mae'n gyfrol o olygfeydd dogfen sy'n edrych tu ôl i'r llen ar fywyd go iawn Americanwyr y 1950au.

Dywedodd yr hanesydd celf Earl A Powell III fod y gwaith yn dangos pobl oedd yn dioddef hiliaeth a diffygion yn y system wleidyddol a chymdeithas oedd wedi ffoli ar fyd y cyfryngau a selebs.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diweddar Robert Frank yn cael ei ddathlu fel un o ffotograffwyr mawr yr Unol Daleithiau

Hawlfraint lluniau Robert Frank drwy garedigrwydd Oriel Pace/MacGill, Efrog Newydd

Hefyd o ddiddordeb: