Sialens cynnal sioe Nadolig ysgol leiaf Cymru

Gyda dim ond naw o ddisgyblion ar y gofrestr, mae rhoi sioe Nadolig ymlaen yn dipyn o her i ysgol leiaf Cymru.

Gan nad ydy dau o ddisgyblion Ysgol Abersoch yn cymryd rhan am resymau crefyddol, saith o blant rhwng tair ac wyth oed sydd ar gael i berfformio sioe Cardiau Nadolig ddydd Mercher.

"Mae'n dipyn o her, ond mae'r plant wedi cyffroi," meddai'r pennaeth, Linda Jones.

"Mae'n waith caled achos maen nhw i gyd yn gorfod chwarae nifer o rannau, felly rydyn ni wedi gorfod cael fersiwn byrrach fel bod yna lai o angen i newid gwisgoedd.

"Dan ni hefyd yn cael y plant i ganu llawer o ganeuon... ond maen nhw'n dal hefo 13 i ganu, felly mae ganddyn nhw lawer i'w ddysgu.

"Ond maen nhw wedi gwneud mor dda mae pobol yn rhyfeddu mai dim ond saith ohonyn nhw sydd yna, maen nhw'n swnio mor dda."

Ond mae yna ofnau efallai mai dyma fydd sioe Nadolig olaf yr ysgol, sydd â lle ar gyfer 34 o ddisgyblion.

Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried ei chau, gan fod dim disgwyl i nifer y disgyblion godi yn y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd Mrs Jones: "I ni'r staff a rhieni oedd yn ddisgyblion yma ein hunain, mae'n emosiynol iawn.

"Croesi bysedd nad hon fydd y sioe Nadolig olaf. Os mae o, fe wnawn ni'n siŵr bod ni'n gorffen gyda bang."