'Maen nhw'n gorfod dewis rhwng gwres, bwyd, anrhegion'

Mae gwirfoddolwyr y banc teganau yma yn ceisio sicrhau y bydd gan bob plentyn y gogledd anrheg i'w agor ar fore'r Nadolig.

Yn ôl Bethan Williams, o Home-Start Cymru, un o'r elusennau sy'n ymwneud â'r fenter, y bwriad yw ceisio bod o gymorth i rieni fyddai fel arall methu fforddio anrhegion i'w plant.