Cyfnewid dillad: 'Does dim byd yn cael ei wastraffu'

Mae grŵp o famau yng Ngheredigion wedi sefydlu cynllun casglu a chyfnewid dillad sy'n anelu at helpu teuluoedd anghennus a chyfrannu at ymdrechion lleol i warchod yr amgylchedd.

Bob dydd Mawrth, mae modd i bobl gyfrannu dillad ail-law, a'u cyfnewid am rai eraill yn Neuadd Pentref Aberporth.

Yn ôl y trefnwyr, mae'r gefnogaeth i'r syniad wedi bod yn ardderchog.

Un o'r trefnwyr yw Lisa Stopher a bu'n siarad gydag Aled Scourfield.