'Apiau iaith yw'r man cychwyn gora' ond rhaid mentro a siarad'

Gyda nifer cynyddol o bobl yn troi at apiau i ddysgu iaith newydd, mae rhai wedi mynegi ofnau bod dysgwyr yn colli amgylchedd a chefnogaeth ymarferol yr ystafell ddosbarth draddodiadol.

Un pryder yw bod gorddibynnu ar ailadrodd geiriau ac ymadroddion yn gallu arwain at ddiffyg dealltwriaeth o ramadeg.

Ond i rai dysgwyr mae'r apiau'n golygu bod modd datblygu'u sgiliau ar eu cyflymder eu hunain, a does dim rhaid ymrwymo i fod ar gael ar yr un pryd bob wythnos.

Yr ateb, medd rhai, yw defnyddio apiau ochr yn ochr â dulliau traddodiadol.

Fel Americanes sy'n byw yn Ffrainc, mae Shaun McGovern eisoes wedi arfer dysgu ac ymarfer ail iaith, ac roedd hi'n hollol agored, o'r herwydd, i'r syniad o ddysgu Cymraeg ar ôl penderfynu astudio am radd Meistr ym Mhrifysgol Bangor.

"Rydw i wedi arfer gwneud camgymeriadau yn Ffrangeg felly pan dwi'n siarad Cymraeg rŵan does dim problem 'neud camgymeriadau," meddai. "Mae'n naturiol."

Mae wedi defnyddio apiau Say Something in Welsh a Duolingo er mwyn dechrau dysgu'r iaith ac yn cytuno bod symud ymlaen i gael sgyrsiau gyda phobl yn gam mawr.

Ond "mae'n rhaid neidio i'r dwfn" yn hwyr neu'n hwyrach, meddai.

"Rwy'n meddwl mai apiau ydy'r man cychwyn gora' oherwydd 'dach chi'n gallu 'neud o yn eich cartref eich hun, 'dach chi'n gallu gwrando ar y synau a 'dach chi ddim yn embarrassed wrth ymarfer y synau drosodd a throsodd.

"Rydach chi'n dod yn eitha' da ar ddysgu darllen trwy'r apiau ond 'dach chi ond yn dysgu siarad iaith trwy siarad iaith. Mae'n rhaid mentro a jest rhoi cynnig arni."