Cefnogwr pêl-droed Cymru 'wedi ei dwyllo o £800 am westy yn Baku'

Mae Llysgenhadaeth y DU yn Azerbaijan yn ymchwilio i honiadau bod cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi cael eu twyllo gan westai yn Baku.

Yn ôl Cymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed (FSA) Cymru mae dros 100 o gefnogwyr wedi cysylltu â nhw i leisio pryderon ynglŷn ag ystafelloedd oedd wedi eu harchebu ar gyfer yr haf.

Un cefnogwr gafodd ei dwyllo o dros £800 ydy Matthew Jones o Gaergybi.

Dywedodd ei fod wedi archebu lle i'w hun a chwech o'i ffrindiau yn y Dream Hotel yn Baku trwy wefan Hotels.com.