'Colli llai o apwyntiadau gyda negeseuon testun'

Dylai cleifion sydd methu â chadw apwyntiadau ysbyty gael ail gyfle, yn ôl meddygon teulu yng Nghymru.

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, cafodd 1.5m o apwyntiadau cleifion allanol eu colli yng Nghymru - a hynny ar gost o £240m.

Yn ôl Dr Phil White, cadeirydd pwyllgor meddygon y BMA, dylai cleifion gael ail gyfle, ac mae'n annog defnydd o negeseuon testun i atgoffa cleifion o apwyntiadau.