George North yn edrych 'mlaen i'r Chwe Gwlad
Asgellwr Cymru a'r Gweilch, George North sy'n edrych ymlaen at ymgyrch Chwe Gwlad o dan brif hyfforddwr newydd.
Hon fydd y bencampwriaeth gyntaf gyda Wayne Pivac wrth y llyw wedi i Warren Gatland roi'r gorau i'r gwaith ar ôl Cwpan y Byd 2019, a hynny ar ôl 12 mlynedd o reoli'r garfan genedlaethol.
Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn ar 1 Chwefror gyda gêm gartref i Gymru yn erbyn Yr Eidal.